Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2015
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Casglu a Rheoli
Trethi (Cymru)
1. Ar 13 Gorffennaf 2015, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 23 Mehefin 2015, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cyllid, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 7 Gorffennaf 2015, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 27 Tachwedd 2015.
4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 5 Chwefror 2016, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.